Galwad am Wirfoddolwyr: Dydd Sadwrn 31 Awst
Gŵyl Parc Fest - Bamboo 2024
Mae'r ŵyl yn cael ei chreu gan ac ar gyfer pobl Sblot, Tremorfa ac Adamsdown, Caerdydd, i ddathlu celfyddydau a diwylliant yr ardal. Byddwn yn meddiannu Caeau Anderson unwaith eto i gynnal diwrnod rhyfeddol arall o berfformiadau, gosodweithiau, sesiynau creu, cerddoriaeth a dathlu'r gymuned – am ddim. Y thema eleni yw cymaint y gallwn ei wneud â Bambŵ wedi'i dyfu yn y Deyrnas Unedig. Cewch wybod rhagor am yr achlysur yma.
Pryd? 31 Awst 2024
Ble? Gorymdaith: Stryd Clifton ar gornel Gold Street. Yr Ŵyl: Caeau Anderson (CF24 0EG, Constellation St, Caerdydd)
Dyddiad: Dydd Sadwrn 31 Awst
Amser: 12:30 – 17:00
Beth fyddaf i'n ei wneud? Fel gwirfoddolwr, byddwch yn rhan hanfodol o'r digwyddiad, gan helpu i sicrhau bod y diwrnod yn rhedeg yn esmwyth a bod pawb sy'n dod i Gŵyl Parc Fest Bamboo yn gadael â gwên ar eu hwyneb ac atgofion anhygoel i'w trysori. Gallech chi wirfoddoli trwy:
• Helpu i osod y safle, ei addurno a'i dynnu i lawr wedyn
• Bod yn wyneb cyfeillgar i gyfarch pobl a'u cefnogi
• Cefnogi perfformiadau ac artistiaid gefn llwyfan
• Helpu â gweithdai creadigol a gweithdai symud.
Pam ddylwn i wirfoddoli gyda NoFit State?
• Bod yn rhan o dîm cyfeillgar, hwyliog.
• Cyfle gwych i gael profiad ymarferol mewn digwyddiadau ac yn y diwydiant creadigol.
• Does dim angen profiad blaenorol! Byddwn yn cynnig hyfforddiant llawn, ac fe gewch gefnogaeth ein tîm craidd profiadol trwy'r amser.
• Byddwn yn cydweithio â chi i sicrhau bod eich profiad o wirfoddoli yn addas ar gyfer eich anghenion, eich sgiliau a'ch targedau.
• Gallwn ad-dalu mân dreuliau rhesymol fel costau teithio.
Os hoffech wybod rhagor a chael sgwrs am gymryd rhan, ebostiwch valentina@nofitstate.org neu ffonio +44 (0) 2920 221 330
Diolch yn fawr am ddangos diddordeb mewn bod yn rhan o gŵyl parc fest - bamboo 2024. Bydd yn dda'ch cael chi yn y tîm.
Mae Nofit State yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.
Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â lizzy@nofitstate.org neu ffonio 02921 321 026
-
Galwad am Wirfoddolwyr
- Gŵyl Parc Fest - Bamboo 2024
- Manylion yr achlysur:
-
Caeau Anderson
Dyddiad: Dydd Sadwrn 31 Awst
Amser: 12:30 – 17:00