Nod NoFit State yw cefnogi hyd at dri artist neu gwmni y flwyddyn fel rhan o raglen Artistiaid Cyswllt NoFit State. Dewisir yr artistiaid neu’r cwmnïau hyn oherwydd:
-Ansawdd eu gweledigaeth artistig;
-Y diddordeb yn eu dyheadau creadigol;
-Bod eu gwaith yn cyd-fynd â gweledigaeth greadigol a diwylliannol NoFit State; a/neu
-Gallu NoFit State i roi cefnogaeth wirioneddol i’w datblygiad.
Yn bwysicaf oll, byddant yn artist neu’n gwmni yr ydym yn teimlo cyffro gwirioneddol o gael bod yn gysylltiedig â nhw.
Trwy wahoddiad y cymerir rhan yn y rhaglen Artistiaid Cyswllt. Gallem ddewis artistiaid neu gwmnïau rydym wedi ymwneud â nhw o’r blaen trwy’r cynllun “Cefnogir Gan” neu rai y down ar eu traws ar ein teithiau. Mae croeso i artistiaid a chwmnïau ein gwahodd i weld eu gwaith a chychwyn sgwrs, ond mae’n rhaid eu bod yn gyfforddus â’r ffaith y gallai beidio ag arwain at wahoddiad i ymuno â’r rhaglen.
Byddwn yn cydweithio â’r Artistiaid Cyswllt am gyfnod penodol. Gallai fod cyn lleied â 12 mis neu gymaint â 5 mlynedd, yn dibynnu ar hynt yr artist neu'r cwmni, a sut orau y gall NoFit State gefnogi eu datblygiad.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd NoFit State yn cynnig gwasanaeth mentora ac yn ymwneud mewn ffordd agored a chreadigol â’r Artist Cyswllt. Bydd y gefnogaeth a roddir yn dibynnu ar anghenion a gobeithion yr unigolion ac ar yr amser a’r adnoddau sydd gan dîm craidd, tîm cynhyrchu a thîm creadigol NoFit State i’w gynnig.
artistiaid cyswllt nofit state 2019
Cefnogir rhaglen beilot newydd 2019 gan y Fenton Arts Trust a'r Golsoncott Foundation. Eleni, mae’n bleser gan NoFit State gefnogi datblygiad:
Company-ish