Mae NoFit State wedi ymrwymo i ddefnyddio’i allu, ei wybodaeth a’i adnoddau mewnol i gefnogi datblygiad sector y syrcas trwy'r Deyrnas Unedig a sector y celfyddydau perfformio yng Nghymru.
Fe wnawn hyn fesul achos a fesul prosiect lle bo modd a lle bo hynny’n realistig o’i gydbwyso â’n rhaglen waith graidd.
Gallai’r gefnogaeth hon gynnwys, ymhlith pethau eraill, cynlluniau un-tro i:
- Ddefnyddio lle yn ein hadeilad yn Four Elms;
-Cael offer ar fenthyg neu ar log; a/neu,
-Cael cyngor neu ymgynghoriad gan aelodau o’r tîm staff craidd.
Cefnogaeth am gyfnod penodol ar gyfer prosiect penodol fydd hyn. Ni fyddwn yn barnu ansawdd gwaith creadigol y person neu’r cwmni a gaiff y gefnogaeth. Nid ydym yn disgwl cydnabyddiaeth ffurfiol am y gefnogaeth a roddwn ac ni fyddwn yn caniatáu defnyddio brand NoFit State.
Rydym yn cadw’r hawl i wrthod cefnogi unrhyw un neu unrhyw gwmni y mae eu gwaith neu eu gweithredoedd yn mynd yn groes i ethos cyd-gefnogaeth NoFit State fel cwmni. Yn ogystal, rydym yn cadw’r hawl i wrthod cefnogi pe baem, trwy gefnogi, yn amharu ar raglen waith graidd NoFit State.
Os hoffech wneud cais am gefnogaeth, llanwch y ffurflen syml hon. Bydd y wybodaeth yn ein helpu i wybod pa gefnogaeth y gallem ei chynnig. Rydym yn edrych ar yr ymatebion i’r ffurflen hon o leiaf bob mis.