Caiff NoFit State ei ysbrydoli’n gyson gan allu pobl gyffredin i wneud pethau rhyfeddol. A ninnau'n elusen gofrestredig, rydym yn enwog am ein cynyrchiadau teithiol sy'n cael eu canmol yn rhyngwladol, ein dosbarthiadau syrcas cymunedol, a’n gwaith gyda’r sector syrcas ehangach yn y Deyrnas Unedig a gyda’n cymuned ni. Ble bynnag yr ydym yn gweithio, rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy gyfleoedd cynhwysol, hygyrch a chreadigol.
Rydym yn awyddus i bawb gael y cyfle i ymwneud â chelfyddyd unigryw syrcas gyfoes, ac rydym yn annog pobl i feithrin hunan-fri, i fynegi eu creadigrwydd ac i feithrin perthynas ag eraill yn eu cymuned. Trwy'n cefnogi ni, rydych yn sicrhau y gallwn ddarparu rhaglenni rhagorol sy’n gwneud gwahaniaeth yng nghalon ein cymuned.
Ymunwch â Breuddwydwyr, Rebeliaid a Chynhyrfwyr y byd hwn wrth i ni gydweithio i newid bywydau pobl trwy syrcas a dathlu popeth sy’n amrywiol ac ychydig yn wahanol.
Byddwch yn wahanol, gwnewch wahaniaeth – heddiw!

breuddwydwyr
Ymunwch â Breuddwydwyr y byd hwn i gefnogi'n gwaith ni yn y gymuned. Trwy roi rhodd fisol, byddwch yn galluogi rhagor o bobl i roi cynnig ar syrcas ac yn helpu i gadw'r cylchoedd i droi a'r peli yn yr awyr. Mae'ch rhodd yn cyfrann
£4.50 per month.

rebeliaid
Os ydych yn Rebel, rydych yn credu yn ein gwaith, ond yn gallu rhoi ychydig mwy. Mae'ch cyfraniad yn gwneud hyd yn oed yn fwy o wahaniaeth, gan ein helpu i brynu offer syrcas hanfodol ar gyfer ein gwaith gyda phlant a phobl ifanc a sicrhau bod arti
£10.00 per month.

ysgogwyr halibalŵ
Byddwch yn Ysgogydd Halibalŵ, rhowch fwy o gefnogaeth ac ewch hyd yn oed ymhellach! Bydd eich rhodd fisol yn ariannu’r hyn sy’n cyfateb i ddosbarth meistr gyda pherfformwyr SABOTAGE ar gyfer artistiaid syrcas dan hyfforddiant, rhagor o docy
£25.00 per month.