clwb syrcas di-dâl gwyliau'r haf | oed: 6-13
Mae Syrcas Gymunedol NoFit State yn trefnu Clybiau Syrcas Gwyliau'r Haf AM DDIM ar gyfer pobl sy’n byw yn Sblot, Adamsdown a Thremorfa, ffoaduriaid/ceiswyr lloches a phobl sy’n byw mewn tai â chymorth. Mae dau glwb haf – Clwb 1 (8, 9, 10 Awst) a Clwb 2 (22, 23, 24 Awst) yn digwydd ar wahanol ddyddiadau. Bydd pob diwrnod yn y clwb yn llawn dop o weithgareddau fel celf a chrefft, adrodd straeon, drymio a sgiliau syrcas! Cynhelir y clybiau rhwng 9.30am a 2.30pm bob dydd. Cewch ollwng eich plant unrhyw bryd rhwng 9.30am a 10.00am a rhaid i chi eu casglu am 2.30pm.
Rhoddir brecwast, cinio a snacs am ddim.
dyddiadau:
Clwb 1: 8, 9 a 10 Awst
Clwb 2: 22, 23 a 24 Awst
Sylwch: Cewch drefnu i'ch plentyn/plant ddod i naill ai Glwb 1 neu Glwb 2.
amserlen pob dydd: 9.30am – 2.30pm
9.30am – 10.00am gollwng ar gyfer y clwb brecwast
10.00am – 12.00pm Syrcas
12.00pm – 12.30pm Cinio (am ddim)
12.30pm – 1.30pm Gweithgareddau creadigol (drymio, crefftau ac adrodd straeon!)
1.30pm – 2.30pm Syrcas
Mae'r clybiau haf am ddim, ond mae angen bwcio.
Llanwch y ffurflen isod i gofrestru ar gyfer Clwb Syrcas Gwyliau'r Haf.