marseille_tent.jpg

2019: blwyddyn y syrcas

News |

Wrth i 2020 gael ei thraed ’tani, bu NoFit State yn ystyried rhai o uchafbwyntiau 2019.

Dyma oedd ail flwyddyn taith y cynhyrchiad LEXICON yn y babell fawr. Aeth o nerth i nerth gan ymweld â gwyliau syrcas byd-enwog fel y Biennale Internationale des Arts du Cirque, Marseille a mannau eraill yn Ewrop, a gwerthwyd yr holl docynnau ar gyfer perfformiadau yn nes adref, yn Arberth, Sir Benfro.

Dal i deithio oedd hanes BLOC, cydgynhyrchiad awyr agored NoFit State gyda Motionhouse, gan gyflwyno dros 60 o sioeau yn ystod y flwyddyn. O Birmingham a Newcastle i Lwcsembwrg a Sbaen. llwyddodd y sioe fytholwyrdd i ennill Gwobr Dewis y Beirniaid yn yr Ŵyl Theatr Ryngwladol yn Ludwigshafen.

Roedd rhaglen gymunedol NoFit State yn dal i ffynnu, gyda dosbarthiadau i bobl ifanc ac oedolion, Ysgolion Haf, gweithdai allgymorth gyda chefnogaeth Plant mewn Angen, heb anghofio perfformiad cymunedol gwych Circus Punks.

Mae criw perfformio Syrcas Ieuenctid y cwmni yn dal yn llawn brwdfrydedd hefyd, gyda’r bobl ifanc yn dangos eu sgiliau mewn perfformiadau arbennig o’u sioe awyr-agored, Circus to the Streets, ynghyd â’u cynhyrchiad o Circus Mundi yng Ngŵyl Gelfyddydau Ieuenctid GŵylGrai yng Nghaerdydd.

Mae’n bwysig nodi bod cynlluniau cydweithio a phartneriaethau wedi cyfrannu'n fawr at lwyddiant y flwyddyn. Wrth weithio ymhell ac agos, bu gan NoFit bartneriaethau lleol â chyrff fel Theatr Hijinx, a rhai ar lefel Brydeinig fel a gafwyd gyda chefnogaeth Roundhouse i’w prosiect ILINX yn ddiweddar.  Mewn menter newydd, mae gan NoFit bartneriaeth dair-ffordd gyda chwmnïau o Affrica, Circus Zambia a chriw drymio Ingoma Nshya o Rwanda er mwyn datblygu perfformiad newydd yn 2020. 

Cafodd y cwmni’r anrhydedd o gynrychioli’r celfyddydau perfformio yng Nghymru trwy eu presenoldeb ym Menter Arddangos y Cyngor Prydeinig yng Nghaeredin ac yng Nghyngres Cymdeithas Ryngwladol y Celfyddydau Perfformio yn Efrog Newydd. Yn ogystal, mae NoFit State wedi dal ati i gefnogi’r sector gan gynnal rhaglen fywiog o ddosbarthiadau meistr proffesiynol a phreswyliadau i artistiaid ifanc a chroesawu Company-ish fel y cwmni cyntaf i ymuno â’r cynllun newydd Artistiaid Cyswllt.

Mae gwaith 2020 wedi dechrau’n barod gydag ymweliad hirddisgwyliedig arall â’r Roundhouse ac mae hon yn addo bod yn flwyddyn hyd yn oed yn well i NoFit State Circus, byd y syrcas gyfoes a sector y celfyddydau yng Nghymru. Ewch draw i www.nofitstate.org  neu dilynwch Nofit State Circus ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod mwy ac i gadw mewn cysylltiad.

2019_Highlight_Final_Timeline.jpeg