Screenshot_2021-05-18_at_15.17.37_-_tiny.png

dosbarthiadau'n ailddechrau eto ym mis mehefin!

Company |

Dyma'r newyddion rydych wedi bod yn disgwyl amdano – mae dosbarthiadau'n ailddechrau eto yn Four Elms! Bu'n rhaid aros yn hir eto, ond mae'r disgwyl bron ar ben ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu yn ôl o ddechrau Mehefin ymlaen.

Nifer gyfyngedig o lefydd sydd gennym eto gan y bydd llai o ddosbarthiadau a llai o ddisgyblion ym mhob dosbarth. Mae hyn yn golygu bod yr holl lefydd yn y dosbarthiadau wedi'u cymryd gan rai oedd ar y rhestr aros. Byddai'n braf cael rhagor ohonoch yn ôl yn syth ond diogelwch yw ein prif flaenoriaeth a gallwn eich sicrhau bod ein tîm cymunedol yn gweithio'n galed i ychwanegu hyd yn oed ragor o'n dosbarthiadau at y rhaglen cyn gynted ag y bo modd.

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu hyd yn oed ragor ohonoch yn ôl yn fuan iawn!

Os hoffech roi'ch enw ar y rhestr aros neu holi am le, cysylltwch â'r dderbynfa trwy ebostio reception@nofitstate.org neu ffonio 02920 221 330.

 

Dyddiadau ailddechrau'r dosbarthiadau:

Dosbarthiadau Syrcas Oedolion – dydd Mawrth 1 Mehefin
Dosbarthiadau Syrcas Ieuenctid – dydd Sadwrn 12 Mehefin 
Dosbarthiadau Dydd Sul Syrcas Amrywiol – Dydd Sul 13 Mehefin

Fe welwch raglen dosbarthiadau mis Mehefin yma: