Lexicon_-_Mina_on_slack_rope.png

croeso ’nôl i nofit state y gaeaf hwn – a’r perfformiad hamddenol cyntaf erioed o sioe syrcas lexicon

Lexicon |

Y gaeaf hwn, bydd NoFit State yn cyflwyno’u sioe LEXICON, a ganmolwyd yn fawr gan y beirniaid, a bydd perfformiad hamddenol (relaxed performance), wedi’i addasu’n arbennig, ddydd Mercher 29 Rhagfyr.

Y sioe brynhawn hon, yng Ngerddi Sophia, Caerdydd, fydd y perfformiad hamddenol cyntaf erioed o LEXICON. Fe’i cynhelir yn y Big Top gyda chynulleidfa lai nag arfer, dim mwy na 300. Bydd yn gyfle i deuluoedd ac oedolion gael profiad o’r sioe syrcas lawen hon sy’n llawn hudoliaeth, chwerthin ac ysgafnder os yw perfformiadau arferol yn ormod iddynt.

Bwriad Perfformiadau Hamddenol yw cynnig croeso cynnes a phrofiad cyfforddus i unrhyw un a fyddai’n gwerthfawrogi amgylchedd mwy hamddenol wrth wylio’r sioe. Er y gall pobl ag anghenion amrywiol iawn fwynhau’r perfformiadau hyn, maent wedi’u bwriadu’n arbennig ar gyfer pobl sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig, anhwylderau synhwyraidd neu gyfathrebu, neu anableddau dysgu.

Er mwyn helpu pawb i deimlo bod croeso iddynt yn y Big Top yn ystod Perfformiad Hamddenol, bydd yn iawn i bobl symud a siarad yn yr awditoriwm, bydd yn hawdd mynd allan a dod yn ôl yn ystod y sioe, a bydd llecyn llonyddu y tu allan i’r Big Top ar gyfer pobl y mae arnynt angen seibiant o’r bywiogrwydd.

Gwnaed newidiadau technegol i’r cynhyrchiad hefyd ac felly gall y gynulleidfa ddisgwyl llai o effeithiau theatrig (mwg, goleuadau llachar, synau uchel), a bydd goleuadau’r babell ymlaen, wedi’u troi i lawr ychydig, trwy gydol y sioe.

Cyn y perfformiad, bydd pawb sy’n dod yn cael pecyn cyflwyno digidol yn rhoi gwybodaeth fanwl am y lleoliad a’r perfformiad, gyda lluniau. Bydd y babell yn agor yn gynnar i bobl gael dod i gael golwg ar y lle, teimlo’n gyfforddus a chyfarfod â’r tîm Blaen Tŷ a fydd yn gwisgo bathodynau fel y gall yr ymwelwyr eu nabod yn hawdd os bydd angen help arnynt.

Os oes angen rhagor o wybodaeth ar rywun sy’n dod i’r Perfformiad Hamddenol, gallant gysylltu’n uniongyrchol â’n Swyddfa Docynnau ar 02921 321 021 neu ebostio boxoffice@nofitstate.com.