agm_2020_banner_-_tiny.png

cyfarfod cyffredinol blynyddol nofit state circus 2020

News |

cyfarfod cyffredinol blynyddol nofit state 2020

nos iau 28 ionawr 2021, 7.30pm – 8.30pm

 

Eleni, bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ychydig yn wahanol i’r arfer a byddem wrth ein bodd yn cael eich cwmni chi.

Byddwn yn cynnal y cyfarfod ar lein dros Zoom ac, er mai o raid yr ydym yn gwneud hyn, y gobaith yw y bydd hyd yn oed ragor ohonoch yn gallu ymuno â ni, yn enwedig ein ffrindiau a’n teulu o bell.
Rydym yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bob blwyddyn, ym mis Tachwedd gan amlaf. Ynddo, rydym yn dweud wrth yr aelodau beth rydym wedi bod yn ei wneud a beth yw’n cynlluniau at y dyfodol, a hoffem eich gwahodd chi i ymuno â ni.

Yn y cyfarfod, cyflwynir ein cyfrifon blynyddol a’u cadarnhau ac mae cyfle i’r aelodau ddarllen y dogfennau a gofyn cwestiynau i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr a’r staff.
Felly, byddai’n dda pe gallech ymuno â ni wrth i aelodau’r gymuned, aelodau’r cwmni a’r ymddiriedolwyr ddod ynghyd i drafod gwaith y cwmni.

Bydd cyfle i chi adnewyddu’ch Aelodaeth o’r Cwmni neu ddod yn Aelod o’r Cwmni yn y cyfarfod. Ni fyddwn yn codi’r tâl aelodaeth blynyddol o £5 ar Aelodau’r Cwmni eleni ond, serch hynny, mae’n rhaid i chi fod yn aelod i gael dweud eich dweud ac mae’n hawdd ymaelodi.

Dim ond lle i 100 sydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol felly cofrestrwch nawr gan ddefnyddio’r ddolen isod.

 

cofrestrwch i ddod i’r cyfarfod cyffredinol blynyddol yma 


Lawrlwythwch agenda’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yma

Lawrlwythwch gofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2019 yma

Os hoffech ddarllen ein cyfrifon archwiliedig, maent i’w cael yma

 

Caiff y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ei recordio ar gyfer ein cofnodion ni ond ni chaiff ei rannu’n gyhoeddus.