Eleni, yn hytrach nag Ysgolion Haf poblogaidd Syrcas Ieuenctid NoFit State, cynhelir Gŵyl Haf ar-lein ddechrau Awst. Bydd cyfle i blant ddysgu sgiliau syrcas, cadw’n brysur a chael hwyl yn ystod gwyliau’r haf, yn ddiogel a gan gadw pellter cymdeithasol yn eu cartrefi. Mewn wythnos o ddosbarthiadau a gweithgareddau syrcas ar gyfer plant a phobl ifanc 5-18 oed, bydd rhywbeth i rai o bob gallu. Felly peidiwch â cholli’r cyfle, cadwch le i’ch plentyn heddiw fel y gall ymuno â chwmni syrcas mwyaf rhyfeddol Prydain ar lein o 3 i 7 Awst.
O jyglo â’r traed i olwyndroi, o poi sanau i symud creadigol ac o ystwythder i glownio, mae rhywbeth i bawb yn Rhaglen yr Ŵyl Haf. Gellir dewis pa sesiynau i gymryd rhan ynddynt ac mae modd dilyn holl ddosbarthiadau’r ŵyl yn ddiogel yn eich cartref gydag ychydig o offer. Bydd hyd yn oed sesiynau crefftau i ddangos sut i wneud eitemau o offer syrcas.
Ymhlith uchafbwyntiau’r rhaglen bydd Sesiwn Holi ac Ateb gyda Luke Hallgarten, y jyglwr tân direidus o sioe NoFit State, LEXICON. Mae’n un o aelodau ieuengaf y cwmni teithiol a bydd yn rhoi syniadau a chyngor i berfformwyr syrcas ifanc. Bydd sesiwn gyda Becca Clark o Green City, mudiad lleol sy’n grymuso pobl fel y gallant gymryd camau i newid eu bywyd, eu cymuned, a’u byd er gwell. Bydd ei sesiwn hi, Creative Community Action, yn helpu pobl i ystyried ffyrdd creadigol o fynegi eu barn a chymryd camau ar faterion sy’n bwysig iddynt, er mwyn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy. Daw diweddglo mawreddog yr wythnos ar y nos Wener yn y Living Room Cabaret. Yno, daw pawb ynghyd i rannu’r sgiliau syrcas newydd anhygoel y maen nhw wedi’u meistroli dros yr wythnos gyda’r plant eraill, eu rhieni a’r athrawon, gan ddod â'r ŵyl i ben mewn dathliad o bob agwedd ar y syrcas.
Caiff dosbarthiadau’r Ŵyl Haf eu cynllunio gan ystyried oedran a lefelau profiad y plant. Ar gyfer plant iau, 5-11 oed, y mae’r sesiynau Hwyl y Syrcas a Chymdeithasu – maent yn addas i ddechreuwyr a rhai â llai o brofiad o’r syrcas. Hwyl y Syrcas o Ddifri sydd ar gyfer rhai hŷn, 11-18 oed, sydd â mwy o brofiad o’r syrcas. Mae rhai o’r sesiynau’n addas i bawb, beth bynnag eu hoed a’u profiad. Cewch ragor o fanylion yn y rhaglen lawn.
Dim ond £30 yw cost tocyn wythnos i blant 5-11 oed a £40 i rai 11-18 oed.