transitiosn_video_screen_shot_tiny.png

datganiad am fideo pontio

Community |

Gan fod ein prosiect Pontio ar stop am y tro, dyma fideo newydd sy’n cymryd cipolwg yn ôl ar flwyddyn gyntaf y rhaglen ddatblygu gyffrous hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol, artistiaid ifanc ac athrawon ym myd y syrcas yng Nghymru.

Roeddem wedi gobeithio cynnig dosbarthiadau meistr a sesiynau sgiliau ymarferol ardderchog yn ystod ail flwyddyn prosiect Pontio, ond pan ddaeth y coronafeirws a’r cyfnod clo, bu’n rhaid rhoi’r gorau i holl sesiynau ymarferol y prosiect. Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn gwneud ein gorau glas i gefnogi gweithwyr syrcas proffesiynol Cymru trwy gynnig arian at weithgareddau neilltuol o Ficro-gronfa’r prosiect. Mae hyn yn gyfle i ni gynnig cymorth hanfodol i artistiaid a gweithwyr creadigol llawrydd wrth iddynt ddatblygu ffyrdd newydd o oroesi yn y maes, fel canfod ffyrdd o wneud cyflwyniadau o bell, gwneud gwaith ymchwil a datblygu wrth hunanynysu, neu ddysgu ar lein.

Ar hyn o bryd, rydym yn dal yn ansicr sut a phryd y gallwn ailgychwyn prosiect Pontio’n llawn ond mae’n hyfryd cael edrych yn ôl ar holl weithgareddau gwych y flwyddyn gyntaf. Gobeithio y gwnewch chithau ei fwynhau!

prosiect pontio, blwyddyn 1:

 

Ffilmiwyd y fideo cyn y cyfnod clo ac mae’n gofnod o flwyddyn gyntaf y prosiect. Gwnaed y ffilm gan David Švorčík.

Caiff y prosiect Pontio ei redeg gan NoFit State Circus a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.