Mae’n anodd credu bod bron 5 mis ers i ni orfod cau drysau Four Elms oherwydd pandemig COVID-19. Ond nawr, o’r diwedd, rydym yn bwriadu ailagor y lle. Byddwn yn cyflwyno llawer o fesurau diogelwch er mwyn helpu i sicrhau y gallwch deimlo’n gyfforddus pan ddowch yn ôl ac er mwyn cadw pawb mor ddiogel ag y bo modd. Rydym yn ystyried hefyd sut y gall fod angen newid strwythur y dosbarthiadau a’r dull o’u cyflwyno.
Er mwyn gwneud hyn, mae angen eich help chi arnom! Hoffem wybod pa fesurau fyddai’n gwneud i chi deimlo fwyaf hyderus wrth ddod yn ôl i Four Elms, a pha ragofalon (precautions) sydd fwyaf hanfodol yn eich barn chi. Gyda’ch cyfraniad chi, gallwn sicrhau ein bod yn gwneud y dewisiadau iawn … fel y gallwch fwynhau ymarfer ac ailgysylltu â chymuned y syrcas wyneb yn wyneb eto cyn hir.
Rydym wedi llunio dau arolwg byr, un ar gyfer oedolion sy’n dod i’n dosbarthiadau a’r llall ar gyfer rhieni plant y syrcas ieuenctid. Dim ond 5 munud y dylai ei gymryd i’w llenwi a byddant yn werthfawr iawn i ni wrth i ni ailddechrau ymarfer yn y ffordd orau bosibl.
Diolch am eich help. Gobeithio y cawn ni’ch gweld chi i gyd yn fuan.
llenwi arolwg ar gyfer oedolion sy’n dod i’r dosbarthiadau:
Pa un o’r gosodiadau hyn sy’n wir amdanoch chi?
3.Fyddwn i ddim yn hyderus i gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau ar hyn o bryd
llenwi arolwg ar gyfer rhieni aelodau’r syrcas ieuenctid:
Pa un o’r gosodiadau hyn sy’n wir amdanoch chi?
3.Fyddwn i ddim yn hyderus i fy mhlentyn gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau ar hyn o bryd
Anfonwch neges ebost i reception@nofitstate.org os oes arnoch angen copi o'r arolwg mewn print bras.
Mae’r arolwg yn rhan o’n Prosiect Peilot newydd a ariannir gan Gronfa Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru.