lexicon_cardiff_psst.png

hoi! mae’r gath allan o’r cwd, mae lexicon yn dod yn ôl i gaerdydd!

Lexicon |

Rydym wrth ein bodd o gael cyhoeddi y bydd LEXICON yn dod yn ôl i Fae Caerdydd dros y Pasg, 8 – 26 Ebrill!

Cafwyd premiere Cymreig LEXICON yng Nghaerdydd yn 2018 ac, ers hynny, bu’n teithio’r byd, o Arberth i Melbourne. Ac yn awr, mae ar y ffordd adref ar ôl cyfnod yn y Roundhouse yn Llundain, lle cafwyd cychwyn cyffrous i'r degawd newydd!

Os gwelsoch LEXICON yng Nghaerdydd o’r blaen, mae ’na eitemau newydd cynhyrfus wedi'u hychwanegu, yn cynnwys doniau arbennig o Gymru ynghyd â’r cast a’r criw rhyngwladol. Mae Dylan Williams, canwr a cherddor eithriadol o ddawnus yn ymuno â ni o Fangor, ac Ellis Grover o Gaerfyrddin yw ein gwifren-gerddwr mentrus newydd. Ymhlith y doniau newydd o’r tu hwnt i Gymru mae Davide Salodini, sydd bob amser yn ddifyr, ar y glôb cerdded, a Katleen Ravoet, llaw-falanswraig o fri.

Bydd y tyrfaoedd wrth eu bodd o weld sawl act yn dychwelyd i Gaerdydd, yn cynnwys y Cymro, Lyndall Merry, ar y Trapîs Siglo, Sam Goodburn a’i act ddigri ar y beic un olwyn a Rosa-Marie Schmid a’i pherfformiad pwerus ar y rhaffau dwbl.

Bydd pabell fawr eiconig, lliw arian, NoFit State yn agos at ganol Bae Caerdydd dros y Pasg, ar hen safle adeilad y Doctor Who Experience ar Heol Porth Teigr.

Bydd tocynnau LEXICON yng Nghaerdydd ar werth o 24 Chwefror ymlaen o’n gwefan, yma: www.nofitstate.org/lexicon . Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rannu rhagor o fanylion â chi am daith LEXICON yn 2020 dros yr wythnosau nesaf!

  

Box office phone number now live: 02921 321 021