Mae LEXICON yn dod yn ôl i Gaerdydd ar gyfer ei rhediad olaf erioed. Ymunwch â ni ar gyfer y Sbloet Croeso ’Nôl Nadoligaidd, rhwng 15 Rhagfyr a 15 Ionawr!
Roedd LEXICON ar fin agor yng Nghaerdydd pan gyhoeddwyd y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, ac felly rydyn ni wrth ein bodd o gael dod adref i’r brifddinas ar gyfer y rhediad olaf, a hwnnw’n un Nadoligaidd!
Ailddatblygwyd y sioe ers y perfformiad cyntaf yng Nghymru, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 2018, ac mae’n cynnwys elfennau newydd cyffrous. Yn eu plith mae Ellis Grover, y cerddwr gwifren uchel anturus o Sir Gaerfyrddin; Davide Salodini, y glôb-gerddwr afieithus; a Katleen Ravoet sy’n eich hudo wrth gydbwyso ar ei dwylo. Bydd band a cherddoriaeth newydd y sioe yn siŵr o’ch swyno.
Rydym mor hapus o gael un rhediad olaf o’r sioe hwyliog a llawen hon. Mae’n ddigwyddiad Nadoligaidd amgen delfrydol ac yn gyfle gwych i ddathlu ein bod yn cael dod at ein gilydd unwaith eto dros yr Ŵyl.
Prynwch docynnau nawr ar gyfer eich cyfle olaf erioed i weld LEXICON! Ac ymunwch â ni yn ein Big Top cynnes, lle bydd bwyd poeth a diodydd Nadoligaidd a bar trwyddedig.
Bydd pabell Big Top NoFit State, sy’n lliw arian ac yn debyg i long ofod, yng Ngerddi Sophia, ger gorsaf goetsys National Express yng nghanol Caerdydd.
Cewch 20% oddi ar bris tocynnau â’n Bargen Gynnar tan 31 Hydref. Rhowch y cod 'EARLYBIRD' wrth archebu neu 'EARLYBIRDfam' ar gyfer tocynnau teulu.
Mae tocynnau LEXICON ar gael o: www.nofitstate.org/Gerddi-Sophia
Rhif y swyddfa docynnau: 02921 321 021 (Llinellau ar agor rhwng 10am a 6pm, o ddydd Sul i ddydd Gwener)