circus_village_announce.jpeg

Mae’r pentref syrcas yn dychwelyd yn 2023

The Circus Village 2023 |

Yn dilyn llwyddiant y Pentref Syrcas yn 2021, mae’r Pentref yn dychwelyd ym mis Mawrth 2023. Fe fydd yn cynnig hyfforddiant, datblygiad a gofod creadigol.

Mae’r Pentref Syrcas yn le i fyw, dysgu a gweithio, ac mae’n rhoi cyfle i weithwyr syrcas proffesiynol a chymunedol i archwilio, i ddatblygu ac i gydweithio, gan rannu profiadau a sgiliau a phrofi ffyrdd newydd o greu. Hwn yw’r cynllun datblygiad proffesiynol mwyaf ar gyfer y syrcas yn y D.U., a bydd cyfle i wneud cais i fynychu cyn bo hir.

Mae’r  Pentref Syrcas yn agored i weithwyr syrcas, gwneithurwyr celf, artistiaid, technegwyr a chynhyrchwyr o Gymru a’r Alban, ac i gydweithwyr creadigol chwilfrydig y dyfodol. O awyrgampwyr profiadol i jyglwyr amatur, mae rhywbeth at ddant pawb. Fe fydd hefyd croeso i ymgeiswyr o Loegr, gyda lleoedd i’w cadarnhau wedi i benderfyniad ei wneud yn dilyn cais ariannol.

Fe fydd cyfle i’r rheini sy’n mynychu astudio amryw o feysydd a fydd yn herio ein ffordd o feddwl a chreu, yn ogystal â chyfle i fireinio sgiliau a rhannu syniadau. Ffocysir ar ddysgu sut i hyfforddi, sgiliau ymarfer, herio eich arfer creadigol, rigio creadigol, a mwy. Fe fydd yn rhad ac am ddim, a chynigir cymorth ariannol i gefnogi gweithwyr llawrydd. 

Fel pentref syrcas yng Nghymru, gyda diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, fe fydd ffocws cychwynnol y pentref yn 2023 ar ddatblygu sgiliau ac anghenion pobl ifanc a gweithwyr cymunedol o fewn y gymuned syrcas Gymraeg, ac ar ddatblygu sgiliau ac anghenion y rheini fydd yn mynychu. Bydd rhan helaeth o’r rhaglen yn cael ei gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd ffocws penodol ar yr iaith Gymraeg.

Fe fydd posib gwneud cais ar gyfer 2023 cyn bo hir, a rhennir mwy o wybodaeth maes o law. Am fwy o wybodaeth ewch

www.thecircusvillage.org neu cysylltwch gyda ni ar contact@thecircusvillage.org

Fe grëwyd y Pentref Syrcas fel ymateb i’r galw gan bartneriaeth o gwmnïau syrcas gwahanol ac artistiaid unigol am gyfle i ddatblygu cyfleoedd proffesiynol hygyrch i artistiaid syrcas y D.U.

Cefnogir y prosiect yn ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Creative Scotland.