Artboard_1.png

mae’r pentref syrcas yn dod i gymru

The Circus Village, Wales |

Mae’r Pentref Syrcas yn dychwelyd ar ei newydd wedd

Yn ystod yr haf eleni mae Syrcas NoFit State yn ymuno â sefydliadau syrcas a gweithwr llawrydd o ar draws Prydain er mwyn creu rhaglen gyffrous a fydd yn cefnogi ac ysbrydoli’r sector syrcas yn dilyn blwyddyn anodd iawn. Rhwng Awst 13eg a Medi 25ain fe fydd y pentref, sydd wedi’i leoli ar gyrion Caerdydd, yn croesawu gweithwyr syrcas newydd a phrofiadol o Gymru, Lloegr a’r Alban i ddod ynghyd i hyfforddi, dysgu a chreu gwaith ystyrlon. Mae hi nawr yn bryd i edrych am bobl i gymryd rhan.

Gan ddilyn hen draddodiad y Babell Fawr teithiol fe fydd y pentref yn safle awyr agored yn cynnwys pebyll syrcas, rigs awyr agored a gofod i bobl syrcas o bob math o gefndiroedd i fyw, i weithio ac i ddysgu gyda’i gilydd. Fe fydd byw, dysgu a gweithio gyda’n gilydd yn rhoi cyfle gwych i brofi ffyrdd newydd o wneud pethau, i archwilio beth mae gweithwyr syrcas yn ei wneud, sut maen nhw’n dysgu – a hyn i gyd wrth i ni ddathlu pob agwedd o’n celfyddyd.

Anelir pythefnos gyntaf y rhaglen at y sector syrcas Cymraeg. Dyma wahoddiad i weithwyr yn y gymuned, artistiaid newydd a gweithwyr proffesiynol ddod ynghyd i ddychmygu dyfodol y sector Cymraeg, a’n rhan creadigol a chymdeithasol ni ynddo.

Yna fe fydd cyfle i weithwyr syrcas sydd wedi’u sefydlu yn Lloegr a’r Alban i ymuno â’r rhaglen am y 4 wythnos sydd yn weddill. Bydd cyfle pellach i astudio datblygiad sgiliau a chyfle i weithwyr i ddatblygu gwaith newydd. Dyma lle y bydd gwiethwyr o’r dair cenedl yn cymryd rhan mewn rhaglen helaeth yn cynnwys Dysgu ac Hyfforddi, Gweithio yn yr Awyr Agored, Syrcas Ddigidol, Rigio Creadigol a Datblygiad Proffesiynol.
Cynigir treuliau i’r rheini sy’n cael eu dewis er mwyn cynorthwyo gyda’u costau byw a theithio. Fe fydd hyn yn sicrhau na fydda arian yn rwystr, a bydd cefnogaeth hygyrchedd ychwanegol hefyd ar gael

Fe fydd y rheini sy’n mynychu yn byw gyda’i gilydd ar y safle am 6 diwrnod neu fwy ar y tro. Fel hyn gall y pentref gael ei reoli fel ‘swigen’ pe bai cyfyngiadau Covid yn tynhau unwaith yn rhagor.

Ariennir y Pentref Syrcas gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Creative Scotland. Os ydych yn weithiwr syrcas sydd wedi’ch sefydlu ynh Nghymru, Lloegr neu’r Alban ac yr hoffech gymryd rhan llenwch y ffurflen gais cyn gynted â phosib. Llefydd cyfyngedig sydd ar y prosiect a bydd yn siwr o fod yn boblogaidd iawn felly ewch ati nawr!

Ewch i wefan y Pentref Syrcas am fwy o fanylion ac i ymgeisio nawr:

 www.thecircusvillage.org

 

Dyddiadau’r Pentref Syrcas

Y rhaglen gyfan:
Gwener Awst 13eg – Sadwrn Medi 25ain

Y bythefnos ffocws Cymraeg:
Gwener Awst 13eg – Iau Awst 26ain

I’r rheini sy’n mynychu o Loegr a’r Alban:
Gwener Awst 27ain – Sadwrn Medi 25ain

 

Partneriaid y Prosiect

Articulture,  CimeraCitrus Arts, Hannah Darby, Ellis Grover, Ellie Kate,  Zoe Munn, NoFit State Circus Organised KaosSyrcas Byd BychanUp Side Down Circus.

 

(Mae partneriaeth gan gynrychiolwyr o Loegr a’r Alban yn cael eu cadarnhau ar hyn o bryd).