Mewn ymateb i'r sefyllfa bresennol, mae NoFit State wedi penderfynu ymestyn y dyddiad cau oedd i fod ym mis Mawrth a cheisio cyrraedd rhagor o bobl.
Rydym yn deall y bydd y misoedd nesaf yn heriol i artistiaid a phobl greadigol llawrydd ac rydym am ddefnyddio’r adnoddau bychan sydd gennym i helpu i ddatblygu gwytnwch creadigol y sector.
Rydym yn gwahodd ceisiadau creadigol a fydd yn eich helpu i ailddatblygu'ch cynlluniau, eich gweithgarwch neu'ch dulliau gweithio i'ch helpu i oroesi'r heriau sydd i ddod. Gan fod llawer o weithwyr llawrydd eisoes yn dioddef am fod gwaith yn cael ei ganslo ac ansicrwydd ynglŷn â'r dyfodol, gofynnwn a oes ffordd y gallai'r ficro-gronfa eich helpu chi i weithio mewn ffordd newydd?
Oes gennych chi syniad ar gyfer cyflwyno gweithgaredd o bell?
Allwch chi gychwyn ar waith ymchwil a datblygu unigol tra byddwch yn hunan-ynysu?
Allech chi ddechrau dysgu rhywbeth ar-lein?
Beth bynnag yw'ch syniad, y cyfan rydym yn ei ofyn yw i chi esbonio sut y bydd yn cefnogi'ch datblygiad proffesiynol. Cyflwynwch eich ceisiadau trwy ffurflen arferol ceisiadau i'r ficro-gronfa.
Mae dyddiad cau nesaf y ficro-gronfa wedi'i ymestyn i ddydd Mawrth 7 Ebrill er mwyn rhoi amser i ddatblygu syniadau newydd.