newyddion am y ficro-gronfa yng nghyfnod covid-19
Mewn ymateb i’r sefyllfa bresennol, mae NoFit State wedi gwneud nifer o newidiadau i ficro-gronfa’r cynllun Pontio.
Rydym yn sylweddoli y bydd y misoedd nesaf yn dipyn o her i artistiaid a gweithwyr creadigol llawrydd ac rydym yn awyddus i ddefnyddio’r arian sydd gennym, er nad yw’n llawer, i helpu’r sector i ddal ati i fod yn greadigol.
Rydym yn agored i dderbyn ceisiadau creadigol er mwyn eich helpu i ailddatblygu’ch cynlluniau, eich gweithgareddau neu’ch dulliau gweithio i’w gwneud yn haws i chi wynebu’r heriau sydd o’n blaen. Gan fod llawer o weithwyr llawrydd yn dioddef am fod trefniadau’n cael eu canslo a'r dyfodol yn ansicr, gofynnwn tybed a allai'r ficro-gronfa eich helpu i weithio mewn ffordd newydd?
- Oes gennych chi syniad ar gyfer cynnig gweithgaredd o bell?
- Allech chi wneud gwaith ymchwil a datblygu ar eich pen eich hunan tra byddwch yn ymneilltuo?
- Allech chi ddechrau dysgu ar-lein?
Beth bynnag yw’ch syniad, y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn esbonio sut y bydd yn hybu’ch datblygiad proffesiynol.
Mae ein micro-gronfa sy’n derbyn ceisiadau am hyd at £250, yn agored i unrhyw weithiwr syrcas proffesiynol sydd â chysylltiad cryf â Chymru.
Mae gennym rowndiau’n digwydd yn amlach erbyn hyn – dwy rownd y mis. Y dyddiadau cau newydd ar gyfer ymgeisio yw:
Dydd Iau 16 Ebrill 2020
Dydd Iau 30 Ebrill 2020
Dydd Iau 14 Mai 2020
Dydd Iau 28 Mai 2020
Cefnogir micro-gronfa’r prosiect Pontio gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cewch ragor o fanylion a gwybodaeth sut i ymgeisio ar dudalen prosiect y Ficro-gronfa.