notice_pic_website.jpg

nodyn pwysig: gohirio dosbarthiadau a pherfformiadau

News |

Annwyl Ffrindiau a Theulu NoFit State,

Yn gyntaf, ac yn bwysicaf, mae pawb yn NoFit State Circus yn gobeithio’ch bod chi a’ch anwyliaid yn iach. Oherwydd y sefyllfa bresennol sy’n effeithio ar bawb ohonom, bu’n rhaid i ni ohirio perfformiadau Lexicon a chanslo’r holl ddosbarthiadau yn Four Elms am y tro.

Gobeithio y gallwn gynnal perfformiadau Lexicon yng Nghaerdydd cyn diwedd y flwyddyn ac ailddechrau’r dosbarthiadau cyn gynted ag y bydd yn ddiogel. Rydym wrthi’n creu ffyrdd newydd i bawb gymryd rhan a chadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod anodd hwn a byddwn yn rhannu’r syniadau hyn i gyd gyda chi cyn gynted ag y gallwn.

Os ydych wedi archebu rhywbeth oddi wrthym, fe wnawn ni gysylltu â chi mor fuan ag y gallwn. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar oherwydd gallai gymryd mwy o amser nag arfer.

Bydd y misoedd nesaf yn eithriadol o anodd i bawb ohonom ac rydym yn gofyn i bawb ystyried rhoi rhodd i ni heddiw os gallant. Byddwch yn ein helpu i barhau yn rhan egnïol o fyd y syrcas ymhell i’r dyfodol.

 

mae angen eich cefnogaeth arnom yn awr yn fwy nag erioed

 

rhowch rodd reolaidd

rhowch rodd un-tro

 

Mae hwn yn gyfnod heriol iawn ond gallwn ddod trwyddo gyda’n gilydd. Cymerwch ofal.

Oddi wrth y tîm i gyd yn NoFit State.