pilot_programme_banner_tiny-(1).jpg

nofit state am ddefnyddio rhaglen beilot newydd i ailwampio dosbarthiadau syrcas

News | Company |

Bu ein hadeilad hyfforddi cymunedol, Four Elms, ar gau ers 18 Mawrth ond erbyn hyn rydym yn cychwyn ar brosiect peilot newydd a ariannir gan Gronfa Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru gyda’r nod o wneud ein rhaglen syrcas yn fwy hygyrch nag erioed pan fyddwn yn ailagor ar ôl y cyfnod clo.

Mae’r prosiect yn cynnwys llawer o waith ymchwil, meithrin partneriaethau ac ymgynghori â'r gymuned ynghyd â mynd ati i dreialu'r prosesau newydd yn ymarferol a'u gwerthuso. Y bwriad yw sicrhau y gallwn ailagor ein hadeilad hyfforddi cymunedol bywiog mewn ffordd sydd mor ddiogel ag y bo modd.

Bydd y rhaglen beilot yn canfod y ffyrdd gorau o gyflwyno dosbarthiadau syrcas yn ddiogel gan gadw pellter cymdeithasol. Rhoddir sylw arbennig i gynnig dosbarthiadau i’r plant a’r bobl ifanc a gafodd eu heffeithio waethaf gan y cyfnod cloi yn yr ardal leol, lle mae llawer o deuluoedd wedi wynebu heriau difrifol. Datblygir y prosiect ochr yn ochr â sgyrsiau gydag ysgolion cynradd lleol er mwyn rhoi’r cymorth gorau i’r rhai mwyaf anghenus a chreu rhaglen a fydd yn cefnogi rhieni ac ysgolion wrth iddynt addasu i ddysgu gan gadw pellter cymdeithasol a phatrymau shifftiau newydd, afreolaidd.

Mae llawer o bethau i'w hailystyried a'u hailddychmygu er mwyn darparu dosbarthiadau syrcas a bydd y cynllun peilot yn rhoi'r amser i NoFit State ystyried y posibiliadau yn drwyadl ac yn ddiogel. Y nod yw mynd i’r afael â’r cynnydd mewn anghydraddoldeb a achoswyd gan y coronafeirws a sicrhau trefniadau sydd hyd yn oed yn fwy cynhwysol i gefnogi’r rhai sy’n dod i’n dosbarthiadau a’r gymuned leol.

Mae’r prosiect peilot yn bosibl diolch i’r Gronfa Ymsefydlogi i Sefydliadau a ariannir gan Gronfa Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru.