GALWAD I GYMRYD RHAN: dosbarthiadau syrcas wythnosol hygyrch i blant a phobl ifanc.
Mae’n bleser gan NoFit State Circus gyhoeddi bod gennym ddosbarthiadau syrcas wythnosol newydd sbon wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc 5-18 oed sydd ar y sbectrwm awtistig. Bydd dosbarthiadau Syrcas Amrywiol yn dechrau ym mis Tachwedd yn Four Elms gan roi cyfle i’r plant ddysgu sgiliau syrcas newydd cyffrous mewn awyrgylch anffurfiol a chefnogol sy’n addas ar gyfer eu hanghenion nhw. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr!
Bydd y dosbarthiadau’n cynnig amrywiaeth o wahanol sgiliau’r syrcas, yn cynnwys jyglo, balansio, awyrgampau ac acrobateg, gan ymateb i anghenion pob plentyn unigol. Bydd un athro am bob tri phlentyn yn y sesiynau. Bydd croeso i rieni, gwarcheidwaid neu weithwyr cymorth ymuno os hoffai'r person ifanc gael cefnogaeth ychwanegol. Anfonir pecyn cynefino at bob disgybl cyn yr ymweliad cyntaf, i’w cyflwyno i’r lle ac i’r athrawon, er mwyn iddynt wybod beth i’w ddisgwyl.
Cynhelir y sesiwn gyntaf ddydd Sul 15 Tachwedd rhwng 1 a 2 o’r gloch yn adeilad hyfforddi NoFit State yn Four Elms, Caerdydd. Yna, bydd sesiynau yr un pryd bob wythnos a bwriadwn gynnal ail sesiwn ar ddyddiau Sul pan fydd gennym ddigon yn cymryd rhan. Yn ogystal, mae’r sesiynau am ddim diolch i gymorth hael Sefydliad Hodge a Sefydliad Rayne.
Os hoffech nodi’ch diddordeb neu ofyn cwestiwn, ebostiwch Olga ar youthcircus@nofitstate.org neu ffoniwch ni ar 02920221330.
Cewch wybod mwy am brosiect Syrcas Amrywiol yma.
Cyflwynir pob dosbarth yn unol â’n canllawiau ar ddiogelwch rhag COVID-19.Rydym wedi cymryd nifer o gamau i sicrhau diogelwch pawb ac fe gaiff y rhain eu diweddaru’n rheolaidd yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.Os hoffech wybod mwy, ewch i’n “tudalen ddiogelwch COVID-19”.