Mae NoFit State yn lansio rhaglen 6 wythnos o ddosbarthiadau syrcas ieuenctid hygyrch Cymraeg a fydd ar gael, yn ddigidol, yn ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru.
Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer plant a phobl ifanc 5-16 oed yng Nghymru sy’n methu cymryd rhan mewn gweithgareddau syrcas am resymau daearyddol. Bydd yn gyfle iddynt roi cynnig ar weithgareddau syrcas am y tro cyntaf gan ymarfer a gwella eu sgiliau Cymraeg ar yr un pryd. Bydd y dosbarthiadau ar-lein yn hygyrch a byddant yn cael eu trefnu yn unol ag anghenion y grŵp o ran lefel eu sgiliau syrcas, lefel eu Cymraeg a’u hoedran.
Bydd y gwersi wythnosol yn para awr a byddant yn dysgu sgiliau syrcas newydd, cyffrous i’r plant heb fod angen offer arbenigol. Bydd modd iddynt gymryd rhan gartref neu mewn ‘swigen’ gymunedol fel ystafell ddosbarth, canolfan gymuned neu neuadd y dref.
Bydd angen cysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd a dyfeisiau electronig i’r rhai sy’n cymryd rhan. Os yw hyn yn broblem i ryw gymuned, mae croeso iddynt wneud cais yr un fath ac fe wnawn ni ein gorau i ganfod ffordd o oresgyn y rhwystrau hyn os oes modd.
Ar hyn o bryd, rydym yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau sy’n cefnogi plant a allai elwa o gymryd rhan ac sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell yng Nghymu. Ni chodir tâl o gwbl am gymryd rhan yr hydref hwn, diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Fodd bynnag, nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly bydd sefydliadau sy’n ymgeisio cyn 12 Hydref yn fwy tebygol o gael cymryd rhan. Bydd y dosbarthiadau’n dechrau ganol mis Hydref.
Dilynwch y ddolen i lenwi ffurflen gais fer.