Mae cronfa boblogaidd y cynllun Pontio wedi'i hail-lansio ac rydym wrth ein bodd o gyhoeddi enwau chwe ymgeisydd llwyddiannus y ficro-gronfa ym mlwyddyn dau.
Ellie Pilott a Debbie Syrop - cydweithio i greu perfformiad syrcas newydd sbon wedi'i seilio ar ennyn diddordeb mewn pynciau STEM.
Lee Tinnion - derbyn hyfforddiant lleisiol ar gyfer elfen y gair llafar yn ei act.
Bunmi Odumosu - dilyn cwrs hyfforddi gyda'r nod o wella'i sgiliau yn dysgu awyrgampau.
Nat Whittingham - cydweithio â'r cerddor Simon Abel fel rhan o waith ymchwil a datblygu ei sioe newydd.
Eric McGill - prynu e-lyfr i helpu i ddatblygu ei dechnegau awyrgampau.
Mae’r Ficro-Gronfa yn rhan o’r prosiect Pontio, rhaglen datblygu proffesiynol, sy’n cael ei rhedeg gan NoFit State Circus a’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Nod y gronfa yw cynnig symiau bach o arian i dalu costau uniongyrchol datblygu proffesiynol na all cronfeydd eraill, mwy, eu cefnogi. Mae'r broses ymgeisio i fod yn gyflym ac yn hawdd ac mae’n agored i unrhyw weithiwr syrcas proffesiynol sydd â chysylltiadau cryf â Chymru.
Y dyddiad cau nesaf yw:
Dydd Mawrth 21 Ionawr (Rownd Fawr)