DATGANIAD: Y Pentref Syrcas 2023: CEISIADAU AR AGOR (ar gyfer blogs/cylchlythyrau)
Mae ceisiadau ar gyfer Y Pentref Syrcas 2023 nawr ar agor!
Mae’r Pentref Syrcas yn le i fyw, dysgu a gweithio, ac mae’n rhoi cyfle i artistiaid syrcas i archwilio’r hyn yr ydym yn ei wneud, sut yr ydym yn dysgu, ac yn gyfle i brofi ffyrdd newydd o greu. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at ddatblygu cyfleoedd proffesiynol hygyrch i artistiaid syrcas y D.U.
Mae ceisiadau nawr ar agor i artistiaid, gweithwyr a thechnegwyr syrcas proffesiynol o Gymru ac o’r Alban; i artistiaid creadigol hen a newydd.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan artistiaid o Loegr, gyda lleoedd ar gael yn dibynnu ar ganlyniad i gais ariannol a wnaethpwyd.
O edrych ar yr ymateb hyd yn hyn, disgwylir y bydd gordanysgrifio ar gyfer Y Pentref Syrcas 2023. Rydym eisiau cynnig lle i gymaint o artistiaid â phosib, ond fe’ch atgoffir y bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i:
• Y rheini fyddai'n elwa fwyaf o'r profiad hwn, neu artistiaid sydd mewn cyfnod o ddatblygiad neu newid tyngedfennol yn eu gyrfa.
• Artistiaid o wahanol gymunedau o gynrychiolaeth annigonol sy'n wynebu heriau ychwanegol o fewn y sector
Fel pentref syrcas yng Nghymru, gyda diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, fe fydd ffocws cychwynnol y pentref yn 2023 ar ddatblygu sgiliau ac anghenion pobl ifanc a gweithwyr cymunedol o fewn y gymuned syrcas Gymraeg. Anogir ceisiadau gan unigolion a sefydliadau ar gyfer y ffocws Pobl Ifanc o fewn y rhaglen. Er, yn yr un cais fe fydd ffocws penodol ar gyfer Pobl Ifanc a Chymuned o fewn y rhaglen.
er mwyn ymgeisio! dilynwch y linc i'n ffurflen gais ar-lein:
The Circus Village (y fersiwn Saesneg)
Y Pentref Syrcas (y fersiwn Gymraeg)
Cysylltwch â ni os hoffech gymorth neu fformat arall wrth wneud eich cais.
er mwyn ymgeisio am y ffocws cymraeg! dilynwch y linc i'n ffurflen gais ar-lein:
Welsh Youth and Community Circus (y fersiwn Saesneg)
Welsh Youth and Community Circus (y fersiwn Gymraeg)
Am fwy o wybodaeth am Y Pentref Syrcas ewch i'n gwefan, www.thecircusvillage.org neu ar Facebook.
Cysylltwch â ni os hoffech gymorth ychwanegol wrth wneud eich cais drwy ebost neu drwy ffonio 07576 392025.
Gallwch gysylltu gyda ni ar contact@thecircusvillage.org gydag unrhyw gwestiynau pellach.
Cefnogir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Creative Scotland.