Bydd Pentref Syrcas 2023 yn dod i ben gyda gŵyl syrcas fer ganol Ebrill ar safle'r Pentref Syrcas yn Abertawe.
Rydym yn bwriadu cynnig ychydig o breswyliadau bach i artistiaid/cwmnïau i ddatblygu gwaith, gyda’r bwriad o'i arddangos yn yr ŵyl ochr yn ochr â rhaglen ehangach.
Rydym yn chwilio am waith neu syniadau sydd ar y gweill ac sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y Big Top neu y gellid eu haddasu ar ei gyfer. Bwriad y preswyliadau yw helpu cwmnïau i sicrhau bod syniadau neu waith presennol neu waith sydd ar y gweill yn cyrraedd safon barod i'w harddangos.
Rydym yn awyddus i gefnogi gwaith diddorol, cymdeithasol-berthnasol sy’n hygyrch i gynulleidfa ehangach. Mae gennym ddiddordeb mewn datblygu gwaith uchelgeisiol, o ansawdd da sy'n gofyn am lefel uchel o sgiliau. Rhoddir blaenoriaeth i rai sy'n gallu dangos yn glir pa mor werthfawr fydd y cyfle ar y cam hwn yn eu datblygiad.
Ein gobaith yw cynnig 3 preswyliad o naill ai 5 neu 10 diwrnod.
Bydd artistiaid preswyl yn cael cyllideb fach (hyd at £3000 neu £6000) i gefnogi'r prosiect. Darperir gwasanaeth arlwyo a bydd lle ar safle'r Pentref ar gyfer carafanau, pebyll neu rigiau personol. Bydd cyfleusterau gweithdy ar gael a bydd gweithwyr syrcas proffesiynol eraill, cynhyrchwyr a phobl greadigol wrth law i gefnogi.
Bydd adnoddau technegol ymarferol ond sylfaenol ar gael ond mae croeso i gwmnïau ddod â’u hoffer a’u criw eu hunain i’r preswyliad os oes angen.
Diddordeb?
Os hoffech nodi'ch diddordeb yn un o'r preswyliadau hyn, llanwch y ffurflen Google isod gan roi rhagor o wybodaeth am eich prosiect, eich cwmni a pham yr hoffech gymryd rhan mewn preswyliad yn y Pentref Syrcas. Byddwn ni'n cysylltu â'r ymgeiswyr i barhau â'r sgwrs.