Dyma’r newyddion y buoch yn disgwyl amdano! Byddwn yn ailagor Four Elms ac yn dechrau cynnal dosbarthiadau unwaith eto! Dilynwch y ddolen isod i roi’ch enw a dweud pa ddosbarthiadau yr hoffech eu gweld yn y rhaglen, oherwydd byddwn yn cyflwyno’r dosbarthiadau gan bwyll yn unol â’r galw.
Byddwn yn cymryd camau bach i ddechrau gan dreialu ychydig bach o ddosbarthiadau bob wythnos. Mae’n bwysig i chi gael gwybod na fyddwn ni’n agor fel yr oeddem o’r blaen. Bydd y rhaglen yn wahanol iawn wrth i ni ddechrau ei datblygu mewn ffordd a fydd yn gynaliadwy o gofio’r canllawiau diogelwch newydd. Efallai y cynhelir dosbarthiadau ar gyfer lefelau cymysg, am lai o amser, yn ogystal â bod llai o ddisgyblion ym mhob dosbarth.
Y bwriad yw dechrau rhai o’r dosbarthiadau mwyaf poblogaidd ganol mis Hydref, am ddim i ddechrau, wrth i ni ddysgu sut i roi’r profiad gorau i chi yn y dosbarth gan ddilyn y camau diogelwch newydd.
Er mwyn ymuno â’r rhestr aros a rhoi gwybod i ni pa ddosbarthiadau yr hoffech chi (neu’ch plentyn) ddod iddynt, dilynwch y ddolen isod.
Camau Diogelwch rhag Covid
Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg a anfonwyd allan fis diwethaf. Fe gawson ni ymateb gwych ac mae hyn, ynghyd â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth, wedi’n helpu ni i baratoi i ailagor yn ddiogel.
Rhai o’r camau diogelu y byddwn yn eu cymryd yn y dosbarthiadau
• Cadw pellter cymdeithasol
• Mannau i gael jel alcohol
• Profi, Olrhain, Diogelu
• Llai o bobl yn y brif ystafell
• Yr offer a’r cyfleusterau’n cael eu glanhau yn rheolaidd
• Mesur tymheredd yr athrawon a’r plant
• Gosod offer dan gwarantîn