Bu’r perfformiad cyntaf erioed o Circus Punks nos Sadwrn 2 Mawrth 2019 gyda detholiad o actiau anarchaidd a ddatblygwyd gan ein cymuned ryfeddol o ddysgwyr a pherfformwyr proffesiynol, yng nghwmni nifer o ffrindiau arbennig NoFit. Ysbrydolwyd y sioe gan ysbryd cyfnod y pyncs, a’r nod oedd aflonyddu ar y system saff.
cyfarwyddwyd gan nicola hemsley
Cafodd Nicola ei hyfforddi’n actores ar raglen Celfyddydau Theatr Cymunedol yng ngholeg drama Rose Bruford ac fe syrthiodd mewn cariad â syrcas yn 1990. Cymerodd 17 mlynedd iddi gychwyn ar yrfa broffesiynol ym myd y syrcas ac ymroi yn llwyr i’r gelfyddyd. A hithau’n Gymraes i’r carn o’r Cymoedd, Nicola yw sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Organised Kaos Youth Circus. Ei chryfder mawr wrth gyfarwyddo yw ei gallu i dynnu’r gorau o’r gymuned a’i droi’n gyflwyniad proffesiynol. Rydym wrth ein bodd ei bod hi’n ymuno â ni ar gyfer y cynhyrchiad cymunedol arbennig hwn gan NoFit State.
noddwyr
Fyddai’r perfformiad cyntaf erioed o Circus Punks ddim wedi gallu digwydd heb nawdd hael Eccentric Gin, Cardiff Speaker Hire a chynllun Prosper, Arts & Business Cymru. Diolch yn fawr i’r cefnogwyr arbennig hyn.
Sponsored by


