Cynigir cymorth ariannol wedi’i dargedu at:
- Gweithwyr proffesiynol sy’n cychwyn ar eu gyrfa
- Gweithwyr proffesiynol syrcas du ac ethnig
- Gweithwyr syrcas proffesiynol sydd ag anabledd neu sy’n niwroamrywiol
- Gweithwyr syrcas proffesiynol sy’n wynebu heriau ariannol
Mae’r Ficro-gronfa yn agored i weithwyr syrcas proffesiynol sydd â chysylltiad cryf â Chymru a gall dalu costau uniongyrchol gwerth hyd at £250 na all arianwyr mwy o faint gyfrannu atynt.
Mae dwy rownd fawr pryd y byddwn yn derbyn ceisiadau am hyd at £500 ar gyfer prosiectau neu syniadau mwy uchelgeisiol.
dyddiadau cau:
18fed Chwefror 2021 (18/02) Rownd Fawr
4ydd Mawrth 2021 (04/03)
18fed Mawrth 2021 (18/03)
1af Ebrill 2021 (01/0) Rownd Fawr
sut i wneud cais:
Darllenwch/Gwrandwch y canllawiauen
Gellir gwneud ceisiadau:
Ar y ffurflen ar-lein
Trwy'r post: Argraffwch y ffurflen, ei llenwi a'i dychwelyd trwy fynd â hi neu ei phostio i:
NoFit State Circus, Four Elms, Four Elms Road, Caerdydd, CF24 1LE
Ar fideo: Anfonwch fideo byr yn ateb y cwestiynau ar y ffurflen gais at ed@nofitstate.org
Ar recordiad sain: Anfonwch recordiad byr yn ateb y cwestiynau ar y ffurflen gais at ed@nofitstate.org
sut y gwneir y penderfyniadau:
Gwneir y penderfyniadau gan banel o 4-6 o bobl sydd â gwybodaeth am sector y syrcas yng Nghymru, o dîm craidd NoFit State a'r sector yn ehangach.
Mae pob aelod o'r panel yn darllen/gwrando ar/gwylio pob cais a ddaw i law erbyn y dyddiad cau ac yn ei fesur yn erbyn canllawiau'r Ficro-gronfa.
Mae'r panel yn ceisio cytuno ar benderfyniad o fewn pythefnos i bob dyddiad cau a bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am benderfyniadau'r panel. Bydd sylwadau am unrhyw geisiadau aflwyddiannus ar gael os bydd angen.