2021_10_MJR_sabotage_1215-web.jpg

Sabotage, Abertawe

Perfformiad afieithus, carlamus a digywilydd o danbaid yn arddull nodweddiadol NoFit State. Gwener 7 Ebrill - Sul 16 Ebrill 2023

sabotage

Ymunwch â chwmni syrcas mwyaf rhyfeddol Prydain, NoFit State, ym mhabell y Big Top.

Mae NoFit State Circus yn ôl â sioe syrcas gyfoes newydd yn y Big Top. Dyma sioe dywyllach, mwy garw a mwy chwyldroadol nag arfer. Mae'n berfformiad mawreddog a bywiog fel arfer, gydag eitemau syrcas syfrdanol, offer newydd, cerddoriaeth fyw eithriadol, tafluniadau byw a llu o elfennau theatrig.

Mae SABOTAGE yn herio'r statws quo. Dyma sioe syrcas gyfoes sy’n eich bywiogi, yn codi’ch calon ac sy’n gymdeithasol-berthnasol. Dyma'r man rydym yn ei gyrraedd ar ein teithiau personol. Mae ein brwydrau a’n breintiau wedi llywio ein taith.  Ond down ynghyd mewn lle cyffredin ym mhabell y syrcas, yn siarad iaith gyffredin y syrcas. Mae SABOTAGE yn ystyried beth sy'n ein gwahanu a sut yr ydym yn perthyn. Mae saboteurs yn sefyll allan. Maen nhw’n gwrthsefyll. Maen nhw’n herio’r sefydliad. Maen nhw’n cael eu clywed.

Does dim byd yn SABOTAGE i’w wneud yn anaddas i blant ond nid yw wedi’i wneud yn benodol i blant.

gŵyl y syrcas

Rhwng 13 ac 16 Ebrill, bydd NoFit State yn dod â The Circus Festival i Abertawe.

Bydd SABOTAGE gan NoFit State i'w weld yn yr ŵyl ynghyd â The Wing Scuffle Spectacular gan Revel Puck Circus fel rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau syrcas. Cyhoeddir rhagor o fanylion cyn hir.

Prynwch docynnau SABOTAGE nawr ac fe gewch docynnau The Wing Scuffle Spectacular am HANNER PRIS!

cynnig i deuluoedd

Pris arbennig o £55 i deulu o 4.

Bydd angen i chi gael o leiaf 1 oedolyn ac 1 plentyn (o dan 16) yn eich grŵp.

BARGEN GYNNAR

PRYNWCH NAWR ac fe gewch 20% oddi ar docynnau SABOTAGE a The Wing Scuffle Spectacular â chod "EarlyBird” wrth dalu.

 (Daw'r cynnig i ben ddydd Sul 12 Mawrth.)

Prisiau

  • £18  Full Price
  • £14  Concession
  • £55  Family of 4 *

Fel rhan o’n polisi amgylcheddol, nid ydym yn rhoi tocynnau papur. Y neges ebost o gadarnhad yw'r prawf eich bod wedi prynu tocynnau!

swyddfa docynnau

Rhif y Swyddfa Docynnau: 02921 321 021

Oriau'r Swyddfa Docynnau: 10am - 6pm (ar gau ar ddydd Sadwrn a dydd Sul)

Os na allwn ateb, gadewch neges ac fe ffoniwn ni chi nôl.

perfformiad hamddenol

Bydd perfformiad 3.00pm o SABOTAGE ddydd Mercher 12 Ebrill yn Berfformiad Hamddenol

Rhai pethau i'w disgwyl yn y Perfformiad Hamddenol:

  • Anfonir  pecyn croeso digidol  cyn y perfformiad
  • Bydd agwedd hamddenol at symud a siarad yn ystod y perfformiad
  • Bydd llai o effeithiau theatrig (mwg, goleuadau llachar, sŵn mawr)
  • Bydd goleuadau’r babell yn dal ymlaen, yn is nag arfer, trwy gydol y perfformiad

Lawrlwythwch y pecyn croeso digidol Perfformiad Hamddenol

cyfarwyddiadau

Bydd pabell Big Top NoFit State sydd fel llong ofod arian ar:

Safle Gŵyl y Pentref Syrcas, Y Rec, Heol y Mwmbwls, Brynmill, Abertawe, SA2 0AU

Cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau gan ddefnyddio Google Maps.

 

parcio

Mae Maes Parcio y Rec nesaf at safle'r Ŵyl.

Bydd gennym ragor o fanylion am barcio i bobl anabl yn nes at yr amser.

FAQs

Mae SABOTAGE yn para tua dwy awr (yn cynnwys egwyl o 20 munud). Gall redeg ychydig yn hwyrach weithiau, felly dylech ystyried hynny wrth wneud trefniadau teithio.

cwestiynau cyffredin

Mae The Wing Scuffle Spectacular yn para tuag 2awr (yn cynnwys egwyl o 20 munud). Gall redeg ychydig yn hwyrach weithiau, felly dylech ystyried hynny wrth wneud trefniadau teithio.

Rydym yn cynnig tocynnau am brisiau gostyngol i:

  • Pobl dros 65 oed
  • Rhai o dan 16 oed
  • Pobl heb gyflog
  • Myfyrwyr

Gall fod angen i chi brofi’ch bod yn gymwys wrth gyrraedd.

Ydym. Os oes gennych gr?p o 10 o bobl fe gewch docyn i 1 ohonynt am ddim. Rhowch 10 tocyn yn eich basged ac fe roddir y gostyngiad yn awtomatig.

Yn achos grwpiau ysgolion ac ati, cysylltwch â ni i drafod unrhyw ostyngiadau sydd ar gael.

Gallwch gysylltu â’n swyddfa docynnau ar: 02921 321 021

Mae ystafell docynnau NoFit State ar y safle yn agor awr cyn dechrau’r sioe. Does dim angen i chi gasglu tocynnau papur. 

Gallwch brynu tocynnau ar y dydd os oes rhai ar ôl.

Does dim rhifau ar y seddau, ac mae golygfa wych o bob sedd!

Fel rhan o’n polisi amgylcheddol, nid ydym yn rhoi tocynnau papur. Cewch stamp ar eich llaw a fydd yn caniatáu i chi fynd i mewn i'r babell.

Rhowch yr enw a roesoch wrth brynu'r tocynnau a nifer y tocynnau pan gyrhaeddwch.

Rydym yn gweithio i wneud ein perfformiadau mor hygyrch ag y bo modd. Os oes gennych chi neu un o’ch gr?p anghenion hygyrchedd ychwanegol, cysylltwch i holi am fanylion ac i weld sut y gallwn wneud eich ymweliad mor braf ag y bo modd.

Dylai pobl sydd â phroblemau symud roi gwybod i’r swyddfa docynnau fel y gallwn gadw seddau hwylus i chi. Mae’r babell fawr yn hollol hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn ac mae toiled hygyrch ar y safle.

Dylai pobl sydd â nam ar eu golwg roi gwybod i’r swyddfa docynnau fel y gallwn gadw seddau ger y tu blaen iddynt. Dylent roi gwybod i ni hefyd os ydynt yn dod â chi tywys gyda nhw.

Mae gennym ychydig o lefydd i bobl anabl barcio ger y safle. Cysylltwch â ni ymlaen llaw os bydd arnoch angen un o’r rhain fel y gwyddom i’ch disgwyl.

Mae seddau i ofalwyr am ddim, ffoniwch dîm y swyddfa docynnau i drefnu’r rhain: 02921 321 021

Byddwch yn un o’n cefnogwyr

Dyma'ch cyfle i redeg i ffwrdd gyda'r syrcas! Trwy fod yn gefnogwr rheolaidd, gallwch newid bywydau trwy ein prosiectau ymgysylltu effeithiol a'n cynyrchiadau syrcas gyfoes syfrdanol

Rhagor o wybodaeth