
gair am yr ŵyl
Gŵyl syrcas 4-diwrnod gan NoFit State Circus a'u ffrindiau ym Mharc y Rec, Abertawe rhwng 13 ac 16 Ebrill yw GŴ̀YL y Pentref Syrcas. Mae'n dod ag artistiaid syrcas gyfoes o bob rhan o'r Deyrnas Unedig at ei gilydd a bydd yn cynnwys perfformiadau a ddatblygwyd yn y Pentref Syrcas yn y cyfnod cyn yr ŵyl.
Bydd perfformiadau yn y Big Top a rhai awyr-agored, yn cynnwys digwyddiadau am ddim, rhai 'talwch fel y teimlwch', a rhai â thocynnau. Cynhelir cabaret syrcas a hefyd Diwrnod o Hwyl Am Ddim i'r Teulu ddydd Sadwrn 15 Ebrill. Manylion isod.
Cyhoeddir rhagor o fanylion a gwesteion arbennig cyn hir.
Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn yr ŵyl
SABOTAGE | NoFit State circus

13 / 14 / 15 / 16 ebrill
(Bydd SABOTAGE yn agor cyn yr ŵyl, ar 7 Ebrill)
Mae naws SABOTAGE yn dywyllach, yn fwy garw ac yn fwy chwyldroadol na sioeau syrcas gyfoes mawreddog arferol NoFit State. Yn ôl yn y Big Top, gydag eitemau newydd syfrdanol, cerddoriaeth wreiddiol, offer newydd a theimlad mwy theatrig. Dyma sioe syrcas gyfoes sy’n eich bywiogi, yn codi’ch calon ac sy’n gymdeithasol-berthnasol.
Does dim byd yn SABOTAGE i’w wneud yn anaddas i blant ond nid yw wedi’i wneud yn benodol i blant.
Tocynnau: £18 Pris Llawn | £14 Consesiwn | £55 Teulu o 4
Archebu NawrThe Wing Scuffle Spectacular | the revel puck circus

13 / 14 / 15 ebrill
Mae The Wing Scuffle Spectacular yn dathlu ofn. Mae ofn yn rhan hanfodol o fywydau pawb ohonom ond anaml y byddwn ni'n dathlu yr hyn mae'n ei wneud i ni. Hebddo, sut allwn ni ddysgu neu dyfu fel pobl? Mae The Wing Scuffle yn fflyrtio mewn ffordd hwyliog, abswrd â'r hyn na allwn ei osgoi gan lawenhau yn ein gallu i wrthsefyll ofn, a'n gallu i wneud sbort am ei ben.
Mae The Wing Scuffle Spectacularyn addas i bobl o bob oed ac yn boblogaidd gyda phobl ifanc.
Tocynnau: £16 Pris Llawn | £12 Consesiwn | £47 Teulu o 4
Archebu NawrThe Big Erection | Circus Purposeless

13 / 14 ebrill
Man cyfarfod celfyddydau awyr-agored a syrcas mewn pabell! Ymunwch â pherfformiad cyntaf y profiad unigryw hwn a chewch flas ar bopeth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni. Cyn dechrau'r sioe, rhaid codi'r Big Top, rhoi prawf ar ddiogelwch y trapîs, a lefelu'r llwyfan rhag i'r beiciwr un olwyn fynd bendramwnwgl. Fe welwch berfformiadau syrcas anhygoel yn yr awyr agored ac o dan gynfas ac fe deimlwch yn rhan o’r gwaith creu. Dyma sbloet i godi’ch calon a’ch difyrru tan y diwedd.
Mae'r sioe yn addas i deuluoedd - peidiwch â phoeni!
Tocynnau: Talwch Fel y Teimlwch (£0, £1, £2.50, £5, £10 y tocyn)
Archebu NawrBitchcraft | kitsch & sync

13 ebrill
Sioe syrcas amgylchol sy'n cynnwys comedi dywyll a theatr ddawns yw Bitchcraft. Mae'n ymdrin â Gwrachyddiaeth, Ffeministiaeth a Hysteria am Wrachyddiaeth. Mae ynddi goreograffi gyfoes, ddefodol, awyr-raffau, y grefft o hongian wrth y gwallt, olwyn Cyr a cherfluniau tân rhyngweithiol mewn sbloet syfrdanol! Cyflwynir y sioe Ymchwil a Datblygu dros 5 diwrnod gan Kitsch & Sync Collective; Kylie Ann Smith a Kim Noble gydag Esther Vivienne Fuge, Claire Crook a Stuart Bawler o Hummadruz....
'Allwch Chi Ddim Llosgi Merched a Wnaed o Dân!'
Mae'r sioe yn addas i deuluoedd - peidiwch â phoeni!
Tocynnau: Talwch Fel y Teimlwch (£0, £1, £2.50, £5, £10 y tocyn)
Archebu Nawrturk(ish) | Poppy Plowman

15 / 16 Ebrill
Dangosiad o waith sydd ar y gweill yw Turk(ish). Mae'n ddarn hunangofiannol sy'n defnyddio cyfuniad o gerddoriaeth fyw, syrcas gyfoes a straeon i drafod safonau harddwch Gorllewinol a'r ffordd y mae pobl yn ymgodymu â'u hunaniaeth.
Mae i'r sioe hon ganllaw oed o 12+ gan fod ynddi rywfaint o iaith gref.
Tocynnau: Talwch Fel y Teimlwch (£0, £1, £2.50, £5, £10 y tocyn)
Archebu NawrThe Village People Circus Cabaret Night | 18+

8pm - nos sadwrn 15 ebrill
Bydd y Village People Circus Cabaret yn cynnwys y perfformwyr a’r artistiaid mwyaf rhyfygus a hynod a fu'n rhan o'r Pentref Syrcas yn y cyfnod cyn yr ŵyl. Ymunwch â nhw am un noson yn unig wrth iddynt ddod yn ôl at ei gilydd i ddangos casgliad amrywiol o eitemau syrcas gyfoes – peidiwch â'i golli.
Caiff rhagor o fanylion am y sioe eu datgelu yn nes at yr amser.
Addas ar gyfer pobl 18+
Tocynnau: Pris Llawn £10 | Consesiwn £8
Archebu Nawrdiwrnod o hwyl am ddim i'r teulu!

dydd sadwrn 15 ebrill
Mae croeso i bawb ymuno â ni ar safle GŴYL y Pentref Syrcas yn Abertawe ar gyfer ein Diwrnod o Hwyl Am Ddim i’r Teulu ddydd Sadwrn 15 Ebrill!
Cewch fwynhau hwyl y syrcas ar Barc y Rec, Abertawe, yng nghanol pebyll syrcas Big Top. Bydd llu o weithgareddau syrcas hwyliog i blant o bob oed, perfformiadau difyr yma a thraw, a gwesteion arbennig a gaiff eu datgelu yn nes at yr amser.
Bydd y safle’n agor am 10.30am, a pheidiwch â phoeni, bydd ein Caffi a'n Bar ar agor fel y gallwch gadw i fynd drwy’r dydd.
Bydd llawer o berfformiadau awyr agored am ddim, ond os hoffech fwynhau hyd yn oed ragor o syrcas ac na allwch wrthsefyll galwad y Big Tops, gallwch brynu tocynnau to SABOTAGE gan NoFit State Circus (4pm) a The Wing Scuffle Spectacular gan Revel Puck Circus (1.30pm).
swyddfa docynnau
Rhif y Swyddfa Docynnau: 02921 321 021
Oriau'r Swyddfa Docynnau: 10am - 6pm (ar gau ar ddydd Sadwrn a dydd Sul)
Os na allwn ateb, gadewch neges ac fe ffoniwn ni chi nôl.
cyfarwyddiadau
Dyma lle mae safle GŴYL y Pentref Syrcas:
Parc y Rec, Heol y Mwmbwls, Brynmill, Abertawe, SA2 0AU, Cymru
Cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau gan ddefnyddio Google Maps.
parcio
Mae Maes Parcio'r Rec nesaf at safle'r Ŵyl.
Bydd gennym ragor o fanylion am barcio i bobl anabl yn nes at yr amser.
sylwch:
Bydd GŴYL y Pentref Syrcas yn gyfle i weld perfformwyr ac artistiaid preswyl o'r Pentref Syrcas, sef rhaglen ddatblygu ar gyfer sector syrcas y Deyrnas Unedig. Trefnir y Pentref gan NoFit State Circus yn yr un man â’r Ŵyl, sef Parc y Rec, Abertawe.
Nid yw'r Pentref Syrcas ar agor i'r cyhoedd, a bydd yn dod i ben cyn dechrau GŴYL y Pentref Syrcas.