Cabaret final image tiny.png

Cabaret Night

Ymunwch â chriw y Pentref Syrcas sy'n dod yn ôl at ei gilydd i ddangos casgliad amrywiol o eitemau syrcas gyfoes – peidiwch â'i golli.
Festival banner logo.jpg

Gŵyl y pentref syrcas

Mae'r sioe hon yn rhan o Ŵ̀YL y Pentref Syrcas, sef gŵyl syrcas 4-diwrnod gan NoFit State Circus a'u ffrindiau ym Mharc y Rec, Abertawe rhwng 13 ac 16 Ebrill.

Mwy o wybodaeth

the village people circus cabaret night | 18+

8pm - nos sadwrn 15 ebrill

Bydd y Village People Circus Cabaret yn cynnwys y perfformwyr a’r artistiaid mwyaf rhyfygus a hynod a fu'n rhan o'r Pentref Syrcas yn y cyfnod cyn yr ŵyl. Ymunwch â nhw am un noson yn unig wrth iddynt ddod yn ôl at ei gilydd i ddangos casgliad amrywiol o eitemau syrcas gyfoes – peidiwch â'i golli.

Caiff rhagor o fanylion am y sioe eu datgelu yn nes at yr amser.

Addas ar gyfer pobl 18+ 

Prisiau

Tocynnau: Pris Llawn £10 | Consesiwn £8

Bydd y pris y dewiswch ei dalu am docyn yn helpu'r artistiaid hyn i ddatblygu eu sioeau – mae'n dal yn ddyddiau cynnar arnynt.

Fel rhan o’n polisi amgylcheddol, nid ydym yn rhoi tocynnau papur. Y neges ebost o gadarnhad yw'r prawf eich bod wedi prynu tocynnau!

swyddfa docynnau

Rhif y Swyddfa Docynnau: 02921 321 021

Oriau'r Swyddfa Docynnau: 10am - 6pm (ar gau ar ddydd Sadwrn a dydd Sul)

Os na allwn ateb, gadewch neges ac fe ffoniwn ni chi nôl.

cyfarwyddiadau

Bydd pabell Big Top Revel Puck ar:

Safle Gŵyl y Pentref Syrcas, Y Rec, Heol y Mwmbwls, Brynmill, Abertawe, SA2 0AU

Cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau gan ddefnyddio Google Maps.

parcio

Mae Maes Parcio y Rec nesaf at safle'r Ŵyl.

Bydd gennym ragor o fanylion am barcio i bobl anabl yn nes at yr amser.

Byddwch yn un o’n cefnogwyr

Dyma'ch cyfle i redeg i ffwrdd gyda'r syrcas! Trwy fod yn gefnogwr rheolaidd, gallwch newid bywydau trwy ein prosiectau ymgysylltu effeithiol a'n cynyrchiadau syrcas gyfoes syfrdanol

Rhagor o wybodaeth