
Gŵyl y pentref syrcas
Mae'r sioe hon yn rhan o Ŵ̀YL y Pentref Syrcas, sef gŵyl syrcas 4-diwrnod gan NoFit State Circus a'u ffrindiau ym Mharc y Rec, Abertawe rhwng 13 ac 16 Ebrill.
Mwy o wybodaeth
Turk(Ish)
Dangosiad o waith sydd ar y gweill yw Turk(ish). Mae'n ddarn hunangofiannol sy'n defnyddio cyfuniad o gerddoriaeth fyw, syrcas gyfoes a straeon i drafod safonau harddwch Gorllewinol a'r ffordd y mae pobl yn ymgodymu â'u hunaniaeth.
Mae'r sioe'n para 30 munud ac mae iddi ganllaw oed o 12+ gan fod ynddi rywfaint o iaith gref.
prisiau
Talwch Fel y Teimlwch (£0, £1, £2.50, £5, £10 y tocyn)
Bydd y pris y dewiswch ei dalu am docyn yn helpu'r artistiaid hyn i ddatblygu eu sioeau – mae'n dal yn ddyddiau cynnar arnynt.
Fel rhan o’n polisi amgylcheddol, nid ydym yn rhoi tocynnau papur. Y neges ebost o gadarnhad yw'r prawf eich bod wedi prynu tocynnau!
swyddfa docynnau
Rhif y Swyddfa Docynnau: 02921 321 021
Oriau'r Swyddfa Docynnau: 10am - 6pm (ar gau ar ddydd Sadwrn a dydd Sul)
Os na allwn ateb, gadewch neges ac fe ffoniwn ni chi nôl.
cyfarwyddiadau
Bydd pabell Big Top Revel Puck ar:
Safle Gŵyl y Pentref Syrcas, Y Rec, Heol y Mwmbwls, Brynmill, Abertawe, SA2 0AU
Cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau gan ddefnyddio Google Maps.
parcio
Mae Maes Parcio y Rec nesaf at safle'r Ŵyl.
Bydd gennym ragor o fanylion am barcio i bobl anabl yn nes at yr amser.
